Get involved

As an employee

Mae Diwrnod Dysgu@Gwaith ar 24 Mai yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd. Medrai eich helpu i:

  • Ennill sgiliau a dealltwriaeth newydd sy’n eich helpu i wneud eich gwaith yn well
  • Cynyddu eich rhagolygon swydd yn eich sefydliad presennol yn ogystal â’r tu allan
  • Cael mwy allan o fywyd yn gyffredinol

Os hoffech gynnwys cydweithwyr cliciwch yma i gael gwybodaeth ar sut i redeg gweithgaredd i’ch tîm, adran neu sefydliad.

Yn gyntaf oll bydd angen i chi ganfod yr amser ar gyfer dysgu. Medrech ofyn i’ch rheolwr llinell os medrech neilltuo peth amser ar Ddiwrnod Dysgu@Gwaith. Esboniwch pam eich bod eisiau gwneud y dysgu a sut y medrai fod o fudd i’ch rôl yn y gwaith. Gall fod angen i chi ad-drefnu eich diwrnod gwaith i ffitio hyn i mewn. Defnyddiwch awr ginio neu egwyl os na fedrwch ad-drefnu eich diwrnod.

Peidiwch anghofio fod learndirect   yn cynnig cyrsiau blasu ar-lein yn ddi-dâl ar ddiwrnod Dysgu@Gwaith.

Ac os cewch eich ysbrydoli i gario ymlaen i ddysgu ar ôl diwrnod Dysgu@Gwaith, ffoniwch 0800 100 900 i gael cyngor di-dâl a diduedd ar bopeth o ddewis y cwrs cywir i ganfod y gofal plant cywir.

 

Learning @ Work, NIACE Dysgu Cymru, 3rd Floor, 35 Cathedral Road, Cardiff. CF11 9HB
A company limited by guarantee registered no. 2603322 and registered charity no. 1002775

Tel: 029 2037 0900
Email: mail@learningatwork.org.uk